Sut i gymryd rhan

Ymgynghoriad 

Yn hydref 2025, cynhaliwyd ein rownd gyntaf o ymgynghori cymunedol. Rhannwyd rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau a’n harolygon sy’n dod i’r amlwg a chynhaliwyd digwyddiadau galw heibio cymunedol. Er bod y cyfnod ymgynghori hwn bellach ar gau, mae ein harddangosfa rithwir yn parhau i fod ar gael a gellir ei gweld isod.

Ymgysylltu â'r gymuned yn y tymor hwy

Byddwn yn mynd allan i gwrdd â phobl ac yn mynychu digwyddiadau lleol, i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect a chlywed gan bobl sut y gallwn wneud hwn y prosiect gorau i’r gymuned leol ac i Gymru. 

Ymhen ychydig dros flwyddyn, rydym yn disgwyl cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol lle byddwn yn cyflwyno ein cais cynllunio drafft llawn gan roi cyfle i'r cyhoedd ac ymgyngoreion statudol roi adborth.

Arddangosfa Rhithwir 

Crëwyd ein harddangosfa rithwir ar gyfer ein hymgynghoriad anffurfiol yn hydref 2025. Yma gallwch weld y byrddau arddangos oedd ar gael yn ein digwyddiadau bryd hynny yn ogystal â rhai delweddau o'n teclyn modelu 3D.

Tanysgrifiwch i gylchlythyr Carreg Wen

Cofrestrwch i dderbyn y diweddaraf am y prosiect gan y tîm.

Tanysgrifiwch

Hoffem glywed gennych chi

Rydym yn croesawu adborth a chwestiynau unrhyw bryd, felly cysylltwch â thîm y prosiect os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Cysylltwch â ni